Kirsty Williams AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Alun Davies AC,
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

 

 

 

16 Tachwedd 2016

Cyllideb ddrafft 2017-18

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet ac Weinidog

 

Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Tachwedd i drafod y Gyllideb Ddrafft. Diolch ichi hefyd am ddarparu eich papur cynhwysfawr cyn y cyfarfod ac am roi sylw i bob un o geisiadau’r Pwyllgor am wybodaeth benodol. Teimlai’r Pwyllgor bod y sesiwn wedi bod yn un gynhyrchiol iawn.

 

Roedd yn ddefnyddiol fod eich papur i’r Pwyllgor yn cadarnhau 10 prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o ran addysg. Roedd deall y cysylltiad â’ch prif flaenoriaethau o gymorth ar gyfer gwaith craffu ar y gyllideb ar draws eich portffolio. Bydd y Pwyllgor yn ystyried pob un o’r blaenoriaethau hyn yn fanwl yn ystod y Cynulliad hwn.

 

Amlinellir isod sylwadau’r Pwyllgor ar feysydd a rhaglenni penodol o fewn eich portffolio.

 

1. Cronfeydd wrth gefn ysgolion

 

Lefelau’r cronfeydd wrth gefn

 

Cyflwynodd Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 bwerau newydd i alluogi awdurdodau lleol i ymyrryd pan fydd gwargedau ysgolion yn cyrraedd lefelau penodol, sef £50,000 neu ragor mewn ysgol gynradd a £100,000 neu ragor mewn ysgol uwchradd neu ysgol arbennig.

 

Nododd y Pwyllgor eich bod wedi synnu am y lefel o gronfeydd wrth gefn sy’n cael eu cadw gan ysgolion ledled Cymru, sydd dros £64 miliwn, fel y cadarnhawyd gennych. Roeddech yn cydnabod bod cadw cronfeydd wrth gefn yn briodol mewn amgylchiadau penodol, ond dywedasoch y byddwch yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn defnyddio dull gweithredu mwy rhagweithiol wrth reoli’r cronfeydd wrth gefn hynny.

 

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod cyllidebau ysgolion yn cael eu defnyddio i’r eithaf ac mae’n croesawu eich ymrwymiad i weithio gydag awdurdodau lleol ar y mater hwn. Hefyd, a oes modd i chi ddarparu manylion ar faint o ysgolion sy’n            rhagori ar lefelau’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn y Rheoliadau? O gofio eich pryderon, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylech ystyried adolygu’r rheoliadau, i fodloni eich hun bod y terfynau ar gyfer cronfeydd wrth gefn yn briodol.

 

2. Y Cynnig Gofal Plant

 

Nododd y Pwyllgor y bydd cynnydd o £20 miliwn yn y gyllideb cyfalaf bob blwyddyn o 2018-19 ymlaen i ddarparu seilwaith i fodloni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnig deg awr ar hugain o ofal plant am ddim i blant 3 a 4 mlwydd oed am 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy’n gweithio.

 

Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 8 Tachwedd dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant y cyflawnir rhan o’r cynnig gofal plant gan y ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen yn ystod y tymor. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedasoch wrth y Pwyllgor eich bod yn hyderus y byddai eich cyllideb yn ddigonol i ddarparu’r elfennau Cyfnod Sylfaen o’r rhaglen hon. Bydd y Pwyllgor yn parhau i adolygu hyn fel y datblyga’r rhaglen.

 

3. Her Ysgolion Cymru

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi eich bod wedi penderfynu terfynu’r rhaglen Her Ysgolion Cymru.

 

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor hwn y llynedd, roedd eich rhagflaenydd yn bendant bod tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod diwygio lefel system gynaliadwy yn cymryd o leiaf bum mlynedd i’w gyflawni. Felly, roedd ysgolion "yn wir yng nghamau cynnar eu taith i wella".

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi fod y rhaglen yn cael ei gwerthuso’n barhaus. Cyhoeddwyd canlyniadau cam cyntaf y gwerthusiad hwnnw. Fodd bynnag, mae ail gam y gwerthusiad, a fydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ac y gellir dadlau yw’r elfen bwysicaf o’r gwerthusiad o ran mesur effaith, eto i gael ei gwblhau. Nid yw’n glir pam y gwnaed y penderfyniad i roi terfyn ar y rhaglen hon cyn cwblhau cam terfynol y gwerthusiad.

 

Mae’r Pwyllgor yn bryderus iawn mai goblygiadau rhoi terfyn ar Her Ysgolion Cymru yn awr fydd na chaiff effaith lawn y rhaglen a gwerth llawn y buddsoddiad eu gwireddu. A oes modd i chi roi manylion ynghylch y dystiolaeth y seiliwyd y penderfyniad i roi terfyn ar Her Ysgolion Cymru arni.

 

Dywedasoch wrth y Pwyllgor fod y rhaglen "yn gyfyngedig o ran amser” ac y caiff ei hariannu gan gronfeydd wrth gefn canolog. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu o glywed eich cadarnhad y dychwelir yr arian i’r cronfeydd wrth gefn, ac nad yw yn cael ei ddefnyddio yn rhywle arall o fewn y MEG Addysg. Penderfynodd Llywodraeth Cymru, ym mis Ionawr 2014, i ddefnyddio swm canlyniadol Barnett i "barhau i godi safonau addysgol". Os ydych wedi penderfynu nad yw Her Ysgolion Cymru yn defnyddio’r arian yn y ffordd orau, pam nad ydych yn defnyddio’r arian ar ddull arall o fuddsoddi mewn safonau ysgol?

 

Mae’r ffaith bod £15 miliwn yn cael ei ddychwelyd o’r MEG Addysg i’r cronfeydd wrth gefn canolog yn codi cwestiwn ynghylch faint o’r £20 miliwn ar wahân ar gyfer safonau ysgolion sy’n arian ychwanegol net mewn gwirionedd.

 

4. Grant Amddifadedd Disgyblion

 

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) yn ymyriad allweddol gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o helpu i godi safonau mewn ysgolion.

 

Nodwn eich honiad fod y Grant wedi helpu i godi lefelau cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion â hawl i brydau am ddim (eFSM) am yr ail flwyddyn yn olynol. Fodd bynnag, fel y nodwyd mewn blynyddoedd blaenorol, mae’n anodd priodoli canlyniadau penodol i’r Grant Amddifadedd Disgyblion, gan ei fod yn un o nifer o ymyriadau yn y maes polisi hwn. Ymhellach, roedd y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion eFSM a’u cyfoedion eisoes yn culhau cyn cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

 

Rydym yn pryderu o hyd na all Llywodraeth Cymru asesu gwerth am arian y rhaglen hon yn llawn ac, o ganlyniad, na all sicrhau bod disgyblion cymwys yn cael y canlyniadau gorau o ganlyniad i’r cyllid sylweddol a ddyrennir i’r rhaglen. Rydym, felly, yn croesawu’r ffaith bod Estyn, ac Eiriolwr Codi Cyrhaeddiad annibynnol yn cynnal gwerthusiad o’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Gobeithio y gall hyn helpu i egluro faint o effaith a gaiff y rhaglen bwysig hon, a’i gwerth am arian.

 

Mae’r Pwyllgor yn pryderu fwyfwy bod diffyg eglurder mewn ysgolion ynghylch sut y dylid defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i gyhoeddi canllawiau newydd arno, er mwyn sicrhau y caiff y Grant ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

Addysg y blynyddoedd cynnar

 

O gofio bod ymyrraeth gynnar ac atal yn agweddau mor amlwg ar Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, mae’r Pwyllgor yn credu y dylech ystyried ymchwilio i effaith bosibl "blaen-lwytho" y Grant Amddifadedd Disgyblion, fel bod rhagor o arian ar gael i ddisgyblion y blynyddoedd cynnar, yn hytrach na disgyblion hŷn. Dywedasoch wrth y Pwyllgor y byddech, wrth gwrs, yn croesawu cael rhagor o arian ar gyfer blynyddoedd cynnar o ran y Grant Amddifadedd Disgyblion, ond y cwestiwn yw, sut y gellir sicrhau’r cydbwysedd gorau posibl ar gyfer defnyddio’r adnoddau sy’n bodoli eisoes ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion.

Fel rhan o’r ystyriaeth honno, efallai yr hoffech ystyried a fyddai’n briodol i gymhwysedd ar gyfer y gyfradd uwch o’r Grant Amddifadedd Disgyblion gael ei ymestyn i lawr un flwyddyn ysgol, fel bod disgyblion yn y flwyddyn Derbyn yn cael y dyraniad Grant Amddifadedd Disgyblion llawn.

Gellid dadlau mai’r Dosbarth Derbyn yw y flwyddyn gyntaf y gall ymyriadau wedi’u targedu gael yr effaith fwyaf diriaethol, o gofio mai dyma pan mae plant yn dechrau mynychu’r ysgol yn llawn amser fel arfer. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael rhagor o fanylion am y sail resymegol ar gyfer talu’r gyfradd blynyddoedd cynnar o £600 ar gyfer plant oed Dosbarth Derbyn (blwyddyn gyntaf babanod, sy’n 4 mlwydd oed ar ddechrau’r flwyddyn) yn hytrach na’r gyfradd oedran ysgol uwch, sef £1,150? Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried eich pwyslais ar ymyrryd yn gynnar.

 

A yw’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael i blant y Lluoedd Arfog

 

Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylid targedu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer pob grŵp o dan anfantais, ac un grŵp sydd wedi’i amlygu yn ddiweddar yw plant personél y Lluoedd Arfog. O gofio natur eu haddysg, yr amherir arno’n aml, gall rhai o’r plant hyn fod o dan anfantais o ran eu dysgu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd gennych y gallech edrych yn fanwl p’un a ellid ymestyn y Grant Amddifadedd Disgyblion i blant y Lluoedd Arfog. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe bai modd ichi roi gwybod iddo, maes o law, beth yw eich canfyddiadau ar y mater hwn.

 

Plant sy’n Derbyn Gofal

 

Dywedasoch wrth y Pwyllgor y caiff y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu mabwysiadu ei ddyrannu i Gonsortia Addysg Rhanbarthol, a byddant yn defnyddio eu profiad a’u dealltwriaeth o anghenion ysgolion lleol i wneud y defnydd gorau o’r cyllid. Cadarnhawyd gennych y byddwch yn herio’r Consortia yn rheolaidd ynghylch eu defnydd o’r arian.

 

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn parhau’n bryderus ei bod yn anodd asesu a yw cyllid a ddyrennir i blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi’u mabwysiadu, yn cyrraedd y rhai sydd mewn angen mewn gwirionedd. Mae hefyd yn anodd monitro effaith y cyllid. Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at weld canlyniadau eich gwerthusiad o ran plant sy’n derbyn gofal, a gaiff ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd, fel y cadarnhawyd gennych.

 

Byddai gan y Pwyllgor ddiddordeb hefyd i glywed sut yr ydych yn asesu effaith ymestyn y defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i blant wedi’u mabwysiadu, yn arbennig gan nad yw’r dyraniadau i’r consortia rhanbarthol wedi’u cynyddu i ystyried niferoedd y plant sydd wedi’u mabwysiadu.

 

5. Safonau Ysgolion

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod £20 miliwn ychwanegol yn cael ei gynnwys yng nghyllideb 2017-18 (fel rhan o’r addewid o £100 miliwn dros bum mlynedd) ar gyfer codi safonau ysgolion. Dywedasoch wrth y Pwyllgor mai eich bwriad oedd canolbwyntio ar y pedwar prif faes a ganlyn ar gyfer y gwariant hwn:

 

     £3.5m i ddatblygu capasiti o ran arweinyddiaeth addysg;

     £2m fel rhan o’r maes cwricwlwm ac asesu;

     £10m o dan addysgeg ar gyfer datblygu’r gweithlu;

     £4 miliwn i ddatblygu gweithio o ysgol i ysgol.

 

Cadarnhawyd ei bod yn fwriad gennych i weithio gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i edrych ar y pedwar maes, er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio’r dull gweithredu cywir. Dywedasoch wrthym eich bod yn disgwyl adborth cynnar gan yr OECD yn hyn o beth, ac y byddai adborth ffurfiol yn dilyn yn ddiweddarach. Byddai’r Pwyllgor yn hoffi gweld adborth yr OECD pan fydd ar gael.

 

Mae’r Pwyllgor yn deall pam yr ydych wedi canolbwyntio ar bedwar maes penodol o ran yr £20 miliwn o gyllid ychwanegol, ond mae’n eich annog i barhau i adolygu hyn, ac i ail-ganolbwyntio arian yn ôl yr angen yn y dyfodol.

 

Cyllidebau ysgolion

 

Yn y Pedwerydd Cynulliad, roedd gan Lywodraeth Cymru bolisi o ddiogelu cyllidebau ysgolion, fel eu bod yn derbyn newid a oedd un pwynt canran yn uwch na’r newid yng ngrant bloc cyffredinol Cymru. Cyflawnwyd hyn drwy gyfuniad o arian yn y Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol drosglwyddo’r warchodaeth, a chyllidebau penodol a oedd yn cefnogi dysgwyr o fewn y MEG Addysg. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, arweiniodd hyn at £106 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion rhwng 2010-11 a 2015-16.

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi eich bod wedi penderfynu peidio â diogelu cyllidebau ysgolion unigol yn yr un modd yn ystod y Pumed Cynulliad. Yn hytrach, rydych wedi dyrannu £100m ar gyfer gwella ysgolion dros bum mlynedd y Cynulliad hwn.

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe bai modd i chi egluro eich rhesymeg dros y penderfyniad hwn. A wnaethoch ystyried parhau â’r dull a ddilynwyd yn y Pedwerydd Cynulliad?

6. Maint dosbarthiadau babanod

 

Mae lleihau maint dosbarthiadau babanod wedi’i restru fel un o’r 10 uchaf o blith ymrwymiadau addysg Llywodraeth Cymru. Mae’r Pwyllgor yn nodi dyraniad o £1 miliwn o’r BEL ‘Grant Gwella Ysgolion’ ar gyfer gwaith treialu. Ymddengys bod hyn, fodd bynnag, ar draul lleihad o £1 miliwn yn y Grant Gwella Addysg a roddir i awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar am gael eglurder ar y mater hwn.

 

O ran y polisi, dywedasoch wrth y Pwyllgor fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyflawni gwaith cwmpasu o ran ei roi ar waith, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ysgolion gyda chyfraddau eFSM uchel a chategori gwella/cymorth coch neu oren, sydd â dosbarthiadau sy’n cynnwys 29 neu fwy o ddisgyblion. Rydych hefyd wedi dweud na fyddwch yn pennu dyraniadau cyllideb ar gyfer y polisi nes bod y gwaith cwmpasu wedi’i gwblhau.

 

Nodwn eich bwriad i wneud cyhoeddiad ym mis Ionawr ynghylch sut y bydd y polisi hwn yn gweithio dros gyfnod y Pumed Cynulliad. Fodd bynnag, cyn y cyhoeddiad hwnnw, a oes modd i chi roi arwydd cynnar o sut y caiff y £1miliwn ei wario ar y cynllun peilot ar gyfer y rhaglen, gan gynnwys: faint o ysgolion a gaiff eu cynnwys o fewn meini prawf eich targed; p’un a ydych yn treialu modelau eraill ar gyfer y ddarpariaeth; sut y byddwch yn asesu canlyniadau’r cynlluniau peilot; a sut y byddwch yn asesu effeithiolrwydd y cynlluniau peilot.

 

7. Addysg bellach ac addysg uwch

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod £30 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a bod £5 miliwn o hwn wedi’i ddyrannu i Addysg Bellach.

 

Pan ofynnwyd iddo pam bod y dyraniad yn ymddangos yn gymharol fach ar gyfer Addysg Bellach, dywedasoch wrth y Pwyllgor eich bod yn defnyddio dull gweithredu cydlynol ar gyfer gwella’r system addysg yn ei chyfanrwydd. Roeddech  hefyd eisiau sicrhau llif gydlynol, o addysg statudol i ddysgu Ôl 16 mlwydd oed, a rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Soniasoch hefyd nad oedd dim ffiniau i Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

 

Cadarnhawyd y byddwch yn cynnwys cyfarwyddyd bod yn rhaid i AU ac AB wella eu perthynas, gyda’r dysgwr yn gallu symud rhwng AB ac AU, yn y Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol y byddwch yn ei anfon at y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer 2017-18.

 

A oes modd i chi ymhelaethu ar hyn a sut yr ydych yn disgwyl i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch adlewyrchu hyn yn y ffordd y maent yn dyrannu arian? A allech amlinellu eich gweledigaeth ar gyfer sut y bydd Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu profiad dysgu mwy cydlynol, a sut y gallai hyn effeithio ar eu cyllidebau yn y blynyddoedd nesaf?

 

 

Adolygiad Diamond

 

Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i amlinellu nifer o feysydd sy’n parhau heb eu datrys ac y mae angen mwy o eglurder arnynt o ran yr adolygiad. Bydd y Pwyllgor yn parhau i adolygu’r mater hwn. 

 

Dysgu Rhan-amser i Oedolion

 

Mae’r Pwyllgor yn dal yn bryderus ynghylch digonolrwydd y cyllid ar gyfer Dysgu Rhan-amser i Oedolion. Mae’r lleihad yn y cyllid ar gyfer Addysg Bellach dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith, na ddylid ei danbrisio, ar y sector. 

 

Yn eich papur i’r Pwyllgor rydych yn nodi, "oherwydd amddiffyn y llinell gyllideb hon, ni ddisgwylir dim rhagor o ostyngiadau ar ddysgu rhan-amser". Fodd bynnag, rydych yn cydnabod, yn dilyn y gostyngiadau sylweddol yn 2014/15 a 2015/16, yr effeithiwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth ran-amser.

 

Dywedasoch eich bod yn hyderus fod arian ar gyfer dysgu rhan-amser yn ddigonol, ond mae’r Pwyllgor yn pryderu bod y gostyngiad mewn cyllidebau blaenorol wedi effeithio mor ddifrifol ar y sector  nes y bydd angen ymyrraeth sylweddol i adfer y ddarpariaeth i’w lefelau blaenorol. A oes gennych weledigaeth ar gyfer darparu dysgu rhan-amser yn y dyfodol, a sut y caiff hyn ei fonitro?

 

Mewn blynyddoedd blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r sector Addysg Bellach flaenoriaethu a diogelu’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr 16-19 mlwydd oed. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i ddeall sut y bydd y sector Addysg Bellach yn parhau i wneud hyn, ac yn peidio â gosod dim rhagor o ostyngiadau ar ddysgu gan oedolion a/neu ddysgu rhan-amser.

 

8. Cymraeg i Oedolion

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y ddarpariaeth dysgu Cymraeg i oedolion. Yn eich papur i’r Pwyllgor roeddech hefyd yn nodi bod penderfyniadau ar sut y defnyddir yr arian hefyd yn cael eu llywio gan flaenoriaethau Strategaeth y Gymraeg newydd, y cwblhaodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad yn ei chylch ar 1 Tachwedd 2016. Dywedasoch wrth y Pwyllgor y byddech yn cwrdd â’r sector i helpu i sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o’r arian ychwanegol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio rôl hollbwysig ehangu addysg cyfrwng Cymraeg i gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er nad oedd modd i chi roi manylion ynghylch Strategaeth y Gymraeg newydd, cadarnhawyd eich bod yn gweithio i sicrhau bod y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs) yn glir ac yn uchelgeisiol, ac y byddech yn cydweithio ag awdurdodau lleol ar eu cynlluniau newydd.

 

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe bai modd i chi ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, maes o law, ar ddatblygiad Strategaeth y Gymraeg a sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i weithredu eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

9. Cyllid cyfalaf

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi yr effeithir ar y BEL sy’n ariannu Ysgolion yr 21ain Ganrif gan ddull Llywodraeth Cymru o gyfrifo llinell sylfaen ddiwygiedig. Cafodd £32 miliwn ei dynnu allan o’r lefel Cyllideb Atodol 2016-17 ar gyfer dyraniadau untro ar gyfer prosiectau Addysg Bellach, sy’n cael eu hystyried yn annodweddiadol o lefel y gwariant blynyddol yn ôl pob tebyg. Cafodd £43 miliwn, a oedd yn ariannu gwaith cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol, ei symud i’r MEG Llywodraeth Leol (Grant Cynnal Refeniw) fel rhan o gam i ddangos bod y cyllid hwn yn fath heb ei neilltuo.

 

Felly, os diystyrir y £43 miliwn a drosglwyddwyd o’r gyllideb, bydd y gyllideb gyfalaf naill ai wedi aros yr un fath o’i chymharu â’r llinell sylfaen ddiwygiedig, neu wedi lleihau £32 miliwn, os caiff ei chymharu â lefel 2016-17.

 

A allwch roi esboniad pellach o’r fethodoleg cyfrifyddu ar gyfer cael gwared ar y cyllid o £32 miliwn i Ysgolion yr 21ain Ganrif at ddibenion cyfrifo’r llinell sylfaen ddiwygiedig? A allwch hefyd gadarnhau fod symud yr arian cyffredinol o £43 miliwn i’r MEG Llywodraeth Leol yn gam cyflwyniadol yn unig, ac na effeithir yn andwyol ar gyllidebau awdurdodau lleol?

 

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid er mwyn helpu’r Pwyllgor hwnnw i graffu’n gyffredinol ar y Gyllideb Ddrafft.

 

Yn gywir

 

Lynne Neagle AC
Cadeirydd


cc: Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid